Yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May (llun: PA)
Mae hyd at 13,000 o bobl ym Mhrydain yn byw dan amodau caethwasiaeth, yn ôl adroddiad newydd gan y Swyddfa Gartref.

Mae hyn bedair gwaith yr hyn a oedd wedi cael ei amcangyfrif yn y gorffennol.

Mae dioddefwyr caethwasiaeth cyfoes yn cynnwys merched sy’n cael eu gorfodi i buteindra, gweision a morynion mewn cartrefi a gweithwyr mewn caeau, ffatrïoedd a chychod pysgota.

Wrth lansio strategaeth y Llywodraeth yn erbyn caethwasiaeth, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May bod graddfa’r cam-drin yn peri braw.

“Y cam cyntaf at ddileu melltith caethwasiaeth gyfoes yw cydnabod ac wynebu ei fodolaeth,” meddai.

“Mae graddfa’r broblem ym Mhrydain heddiw’n peri sioc ac mae’r ffigurau newydd hyn yn atgyfnerthu’r angen am weithredu ar frys.”