Fe wnaeth sêls y ‘dydd Gwener du’ arwain at anhrefn mewn siopau ledled Cymru a gweddill Prydain ddoe.

Cafodd Heddlu De Cymru alwadau gan weithwyr amryw o siopau, gan gynnwys un yn Excelsior Road, Caerdydd, a oedd yn pryderu am “ymddygiad cwsmeriaid”, er na chafodd neb eu harestio.

Mae prif gwnstabl Heddlu Manceinion wedi beirniadu’r siopau am beidio â gwneud trefniadau digonol ar gyfer diogelwch ar ôl i’r rhuthr am fargeinion arwain at ymladd yn y ddinas.

“Roedd y digwyddiadau’n rhai hawdd eu rhagweld a dw i’n siomedig nad oedd gan siopau ddigon o staff diogelwch ar ddyletswydd,” meddai Syr Peter Fahy.

“Rhaid inni ofyn i’r siopau weithio gyda ni i leihau’r galwadau ar yr heddlu ac i leihau’r risgiau o anhrefn a throseddu.”

Traddodiad Americanaidd yw’r ‘dydd Gwener du’ pryd mae siopau ledled y wlad yn cynnig bargeinion eithriadol drannoeth dydd Diolchgarwch, ac mae’r arferiad wedi cael ei fabwysiadu fwyfwy gan siopau Prydain dros y blynyddoedd diwethaf.

Ar ôl denu cymaint o gwsmeriaid ddoe, mae amryw o’r siopau’n parhau â’u cynigion dros y penwythnos.