Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud y byddan nhw’n cynnal ‘boicot cenedlaethol’ o archfarchnad Morrisons am eu bod yn anhapus â’u polisi iaith.
Dywedodd yr ymgyrchwyr iaith heddiw y byddan nhw’n dechrau’r boicot ddydd Llun, a hynny am nad ydyn nhw’n credu bod rheolwyr Morrisons yn cynnig arweiniad na pholisi sydd yn adlewyrchu statws swyddogol y Gymraeg.
Bu’r archfarchnad yn y newyddion ar ddechrau’r flwyddyn ar ôl i staff Morrisons ym Mangor gael eu cyhuddo o wrthod rhoi presgripsiwn i rywun oherwydd ei fod wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg.
‘Blynyddoedd o drafod’
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod wedi cynnal trafodaethau â Morrisons ers hynny er mwyn ceisio eu perswadio i newid y ffordd maen nhw’n delio â chwsmeriaid yng Nghymru.
Ond maen nhw nawr yn galw ar bobl i foicotio’r siopau, am nad ydyn nhw’n teimlo bod prif swyddogion Morrisons yn dangos digon o “arweiniad” ar y mater.
“Rydym yn parhau i drafod gyda Morrisons, ond yn anffodus, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o drafodaethau, does dal dim polisi iaith genedlaethol ganddynt,” meddai Manon Elin, llefarydd Hawliau Cymdeithas yr Iaith.
“Maent wedi dweud eu bod am ‘gynyddu’r defnydd o’r iaith Gymraeg’ – sy’n galonogol – ond nid ydym yn cytuno mai cyfrifoldeb staff siopau unigol yw penderfynu faint o ddeunyddiau hyrwyddo a chyhoeddiadau Cymraeg sy’n briodol yn y siop.
“Mae angen i’w prif swyddogion ddangos arweiniad clir.”
Targedu’r Nadolig
Ychwanegodd Manon Elin nad oedd “cyfiawnhad” dros ail-frandio diweddar yn siopau Morrisons yng Nghymru a welodd arwyddion dwyieithog yn diflannu, a rhai uniaith Saesneg yn cymryd eu lle.
Ac mae Cymdeithas yr Iaith yn credu y gallai’r boicot berswadio’r archfarchnad i newid ei pholisi drwy ei tharo ar ei hamser prysuraf – cyfnod y Nadolig.
“Credwn fod dyletswydd ar Morrisons, fel cwmni sy’n gwneud elw yng Nghymru, i barchu’r Gymraeg,” meddai Manon Elin.
“Wrth barhau â’r boicot, rydym yn grediniol bod modd ennill y frwydr bwysig hon, yn arbennig yn ystod cyfnod prysuraf y cwmni yn arwain at y Nadolig.”
Byddai’r boicot hefyd yn gyfle i bobl Cymru gefnogi busnesau llai, yn ôl cadeirydd y mudiad Jamie Bevan.
“Dyma gyfle euraidd i ni wneud dipyn mwy o’n siopa mewn busnesau lleol,” meddai Jamie Bevan.
“Nid bygythiad mo hwn, ond gwrthod cydymffurfio â threfn anghyfiawn.”