Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi cytuno i gydweithio gydag arweinwyr gwleidyddol Yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn hawlio mwy o rymoedd i Lywodraeth Cymru.

Bu Prif Weinidog Cymru yn cyfarfod Nicola Sturgeon Prif Weinidog Yr Alban a Martin McGuinness Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon er mwyn trafod cydweithio ar sicrhau fwy o ddatganoli gwleidyddol o fewn Ynysoedd Prydain.

Dyma gyfarfod cynta’r arweinwyr ers cyhoeddi adroddiad Smith ddoe a oedd yn argymell rhoi grymoedd cryfach i Senedd Yr Alban, gan gynnwys yr hawl i amrywio treth incwm.

Yn dilyn y cyfarfod fe ddywedodd Carwyn Jones y dylai’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban fod ar gael i Gymru a Gogledd Iwerddon hefyd.

“Rydym yn gefnogol o’r hyn y mae Comisiwn Smith wedi ei argymell ar gyfer Yr Alban,” meddai Carwyn Jones.

Ychwanegodd: “Nid oes cyfiawnhad dros drin gwledydd y Deyrnas Gyfunol yn wahanol”.

Ond roedd yn mynnu nad oedd modd trosglwyddo’r cyfrifoldeb dros dreth incwm i Fae Caerdydd hyd nes bod Trysorlys Llywodraeth Prydain yn datrys y ffaith ei bod yn tangyllido Cymru.