Beth fydd barn Angela? (Llun PA)
Fe fydd Prif Weinidog Prydain David Cameron yn galw am gyfyngu ar hawl mewnfudwyr o’r Undeb Ewropeaidd i gael budd-daliadau.
Mae disgwyl iddo ddweud y bydd rhaid i fewnfudwyr aros o leiaf bedair blynedd cynbod yn gymwys i dderbyn budd-dal lles neu dai cymdeithasol.
Mae’r Prif Weinidog yn mynnu bod y cyfyngiadau yn “gwbl hanfodol” yn y trafodaethau dros aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd – wrth iddo fwriadu cynnal refferendwm er mwyn penderfynu os dylai Prydain aros yn rhan o’r undeb.
Daw ei alwad yn dilyn y cyhoeddiad bod “cynnydd sylweddol” o tua 45,000 o bobol wedi bod yn nifer y mewnfudwyr a ddaeth i Brydain y flwyddyn ddiwethaf.
Swyddi
Os caiff David Cameron ei ffordd, fe fydd gan bobol ddi-waith o’r Undeb Ewropeaid chwe mis i ddod o hyd i swydd yn ngwledydd Prydain, neu mi fyddan nhw’n cael eu gorfodi i adael.
Fydd mewnfudwyr ddim yn derbyn budd-dal chwaith ar gyfer plant sy’n byw mewn gwledydd eraill.
Mae rhyddid symud i weithwyr yn un o sylfeini’r Undeb Ewropeaidd ac fe fydd diddordeb mawr i weld be fydd ymateb gwledydd eraill i’r galwadau.
Beirniadaeth
Mae agwedd “galed” David Cameron tuag at fewnfudo wedi cael ei feirniadu gan lefarydd y laid Lafur ar faterion cartref, Yvette Cooper:
“Mae mewnfudo yn bwysig i Brydain. Ond mae agwedd galed David Cameron ar y mater wedi methu’n llwyr,” meddai.
“Bedair blynedd a hanner i mewn i’w dymor yn y Llywodraeth, mae ei addewidion ar dargedau mewnfudo yn deilchion.”