The National - am ddal ati
Fe fydd y papur dyddiol newydd yr Alban yn dal ati i gyhoeddi ar ôl gwerthiant sydd “y tu hwnt i freuddwydion” y perchnogion.
Mae’n golygu y bydd gan blaid yr SNP a chefnogwyr annibyniaeth bapur dyddiol i’w cefnogi nhw – yr unig un yn y wlad.
Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ôl i gyhoeddwyr The National ddatgelu bod y rhifyn cynta’ ddechrau’r wythnos wedi gwerthu 60,000 a bod 11,000 wedi tanysgrifio ar-lein.
Arbrawf
Roedd y papur wedi ei gyhoeddi i ddechrau yn arbrawf pum niwrnod gan y perchnogion, Newsquest, sydd hefyd yn cyhoeddi’r Herald, yr Evening Times a’r Sunday Herald.
Golygydd yr Herald dydd Sul, Richard Walker, yw golygydd y papur newydd hefyd – y Sunday Herald oedd yr unig bapur cenedlaethol i gefnogi annibyniaeth yn y refferendwm ym mis Medi.
Roedd gwerthiant wedi cwympo ychydig ers y dyddiau cynta’ oll, meddai Richard Walker, ond roedd hynny i’w ddisgwyl.
Roedd llwyddiant y papur y tu hwnt i’w breuddwydion mwya’, meddai.
- Fe ddangosodd cyn Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, ei gefnogaeth i’r papur trwy gario copi ar y llwyfan yn ystod seremoni gwobrau cylchgrawn y Spectator ddoe.