Mae heddlu’n dal i alw am dystion i ddamwain pan gafodd gyrrwr beic modur ifanc ei ladd.
Mae dyn 24 oed o Gaerdydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus ar ôl y ddamwain ddechrau’r wythnos.
Fe fu Lloyd Thomas Evans, 25 oed o ardal y Rhath, farw o’i anafiadau ar ôl i’w feic daro yn erbyn rhwystr ynghanol ffordd ddeuol ger Lecwydd.
Yn y cyfamser, mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn “fab a brawd hynod”.
Llywodraeth eisiau gwybodaeth
Mae Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi galw am adroddiadau ar y cynnydd yn nifer y damweiniau beic modur yng Nghymru eleni.
Roedd 25 o yrrwyr beiciau wedi cael eu lladd yn naw mis cynta’ eleni – cynnydd sylweddol ar y blynyddoedd cynt.