Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford wedi talu teyrnged i fwy na 370,000 o ofalwyr yng Nghymru ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr.
Mae tua 90,000 o ofalwyr yn gofalu am berthnasau a ffrindiau am o leiaf 50 awr yr wythnos yng Nghymru – a rhwng 70% a 95% o’r gofal hwnnw’n cael ei gynnig yn rhad ac am ddim.
O fis Ebrill 2016 ymlaen, fe fydd gan ofalwyr yng Nghymru hawliau cyfartal i’r bobol y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.
Yn ôl deddf newydd, fe fydd hi’n haws i ofalwyr gael yr hawl i gefnogaeth – yn hytrach na gorfod dangos eu bod yn cynnig “gofal sylweddol”, fe fydd dangos eu bod dan yn amlwg dan bwysau yn ddigon.
Gwasanaethau’n ‘chwalu’ hebddyn nhw
“Wrth i ni nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr, dw i am dalu teyrnged i’r gwaith y maen nhw’n ei wneud a dweud ‘diolch yn fawr’ i’r miloedd o bobol ledled Cymru sy’n gofalu,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.
“Mae ein gofalwyr yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy. Heb eu hymroddiad, byddai ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn chwalu,” meddai.