Bryn Estyn, Wrecsam, un o'r cartrefi ynghanol y troseddu
Fe fydd 12 o bobol yn wynebu cyhuddiadau o gam-drin rhywiol yng ngogledd Cymru y flwyddyn nesa’.
Ac, yn ôl heddlu sy’n arwain Ymgyrch Pallial i gam-drin hanesyddol yn yr ardal, mae 23 o bobol eraill wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau.
Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth nodi dwy flynedd ers dechrau’r ymgyrch sydd yn nwylo’r Asiantaeth Droseddu Genedlaethol.
Tua 120 ‘dan amheuaeth’
Mae ymchwilwyr bellach yn ystyried cwynion gan 236 o bobol ac mae ganddyn nhw enwau 120 o droseddwyr posib.
Yn ôl y prif swyddog ymchwilio, Ian Mulcahey, mae llawer o’r rheiny wedi marw – mae’r troseddau honedig yn mynd yn ôl cyn belled â’r 1970au.
Ddoe, fe gafodd pennaeth nifer o gartrefi yn y Gogledd, John Allen, rybudd y gallai dreulio gweddill ei oes yn y carchar ar ôl ei gael yn euog o 33 o droseddau o gam-drin rhywiol yn erbyn bechgyn ac un ferch.
Medden nhw
“Dw i’n dawel fy meddwl fod lleisiau dioddefwyr yn cael eu clywed a bod achosion o gam-drin hanesyddol o’r diwedd yn cael eu hymchwilio’n drylwyr gan Ymgyrch Pallial,” meddai Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler.
“Ar ddechrau Ymgyrch Pallial, mi ddywedais y dylai troseddwyr orfod edrych yn ôl tros eu hysgwyddau am weddill eu bywydau a sylweddoli bod pob gwybodaeth a thystiolaeth yn cael eu harchwilio,” meddai Prif Gwnstabl Gogledd Cymru, Mark Polin,
“Mae’n gysur gwybod bod cymaint o unigolion wedi bod yn ddigon hyderus i ddod gerbron ac yn derbyn y cyngor a’r cymorth y mae eu hangen arnyn nhw.”
Cyngor Sir Conwy sy’n arwain y gwaith o gefnogi dioddefwyr.