Leighton Andrews yn bygwth uno cynghorau
Erbyn diwedd y dydd heddiw, fe fydd rhaid i gynghorau sir Cymru ddweud wrth y Llywodraeth a ydyn nhw’n barod i ymuno gyda’u cymdogion.
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus wedi rhybuddio y bydd rhaid torri nifer y cynghorau o 22 i 12, neu hyd yn oed 6.
Dim ond wyth cyngor sydd wedi dweud eu bod yn trafod uno:
- Blaenau Gwent a Torfaen
- Castell Nedd Port Talbot ac Abertawe
- Sir Ddinbych a Chonwy
- Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.
Gwrthod
Mae nifer o gynghorau eraill eisoes wedi dweud nad ydyn nhw eisiau colli eu hannibyniaeth.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi comisiynu adroddiad sy’n awgrymu y gallai uno cynhgorau gostio cymaint â £260 miliwn, gydag arbedion tymor hir posib o tua £65 miliwn.
Roedd Comisiwn Williams y llynedd wedi argymell gostwng nifer y cynghorau yng Nghymru i 10 – 12 ond fe gododd Leighton Andrews y gwres yr wythnos ddiwetha’ trwy awgrymu y gallai’r nifer fod cyn lleied â chwech.
Awgrymiadau eraill
Mae partneriaethau eraill wedi cael eu hawgrymu:
- Gwynedd a Môn – mae Gwynedd yn fodlon ystyried, ond Ynys Môn wedi gwrthod.
- Yr hen Ddyfed – uno Ceredigion, Caerfyrddin a Sir Benfro, ond dyw’r cynghorau ddim o blaid.
- Abertawe fwy – mae rhai wedi awgrymu cyngor i gyfateb i Ddinas Rhanbarth Abertawe, gan dynnu Llanelli i mewn i’r un cyngor ag Abertawe.
- Merthyr a Rhondda Cynon Taf – Merthyr yw un o’r cynghorau lleia’ yng Nghymru.
Hyd yn hyn, mae’r Llywodraeth wedi dweud y dylai ffiniau newydd ddilyn siâp ffiniau’r cynghorau presennol.