Siop Tesco (Makikind CCA 2.0)
Fe gafodd heddlu eu galw i rai o siopau mwya’ Caerdydd wrth i staff boeni bod peryg o anhrefn wrth i bobol dyrru yno ar gyfer bargeinion y Gwener Du.
Yn ôl Heddlu De Cymru, roedden nhw wedi cael nifer o alwadau gan reolwyr mewn siopau Tesco wrth iddyn nhw boeni bod gormod o bobol yn cyrraedd ar gyfer y diwrnod bargeinion.
Fe fu’n rhaid i heddlu fynd ddwywaith i’r archfarchnad yn Ffordd Excelsior oherwydd pryderon am “ymddygiad cwsmeriaid”, meddai’r heddlu.
Chafodd neb ei arestio ac, yn ôl yr heddlu, roedden nhw wedi rhoi cyngor i’r rheolwyr ar y ffordd orau i osgoi problemau pellach.
‘Cyflafan’ meddai siopwyr
Roedd digwyddiadau tebyg wedi bod mewn siopau yn Lloegr hefyd wrth i’r bargeinion ddechrau am hanner nos yn rhai o’r archfarchnadoedd.
Roedd siopwyr yn sôn am “gyflafan” ac adroddiadau am giwiau hir o geir yn ceisio mynd i feysydd parcio rhai o’r siopau.
Mae’r Gwener Du wedi datblygu’n ddiwrnod mawr yn y blynyddoedd diwetha’ wrth i siopau gynnig bargeinion brys am gyfnodau byr.