Mae’r llofrudd Americanaidd Charles Manson, 80, yn bwriadu priodi dynes 26 oed yn y carchar.
Fe ddywedodd Afton Elaine Burton, y ddarpar wraig, ei bod hi’n caru Charles Manson – sydd o dan glo am lofruddio saith o bobol, gan gynnwys yr actores feichiog Sharon Tate yn 1969.
Nid oes dyddiad wedi cael ei bennu ar gyfer y briodas hyd yn hyn ond mae’r carchar wedi penodi swyddog i ddelio’r a’r briodas.
‘Dieuog’
Mae Afton Elaine Burton yn byw ger y carchar yn Corcoran ac yn rhedeg sawl gwefan sy’n mynnu bod Charles Manson yn ddieuog.
Nid oes gan Manson yr hawl i gael ymweliadau yn y carchar, ond mae Afton Elaine Burton wedi dweud ei bod eisiau ei briodi er mwyn cael gwybodaeth am ei achos na fyddai ar gael i bobol sydd ddim yn perthyn iddo.
Mae llefarydd ar ran teuluoedd y rhai gafodd eu llofruddio gan Charles Manson wedi dweud fod y briodas arfaethedig yn “chwerthinllyd.”