Parafeddygon yn cludo corff o'r synagog
Roedd tri o’r bobl a laddwyd mewn ymosodiad ar synagog yn Jerwsalem yn ddinasyddion Americanaidd ac roedd yr un arall yn Brydeiniwr, meddai heddlu Israel.
Dywedodd yr heddlu fod y dioddefwyr i gyd yn fewnfudwyr i Israel ac roedd y pedwar yn dal dinasyddiaeth ddeuol.
Roedd dau ddyn o Balestina wedi mynd i’r synagog yng nghymdogaeth Har Nof yn ystod gweddïau’r bore gan ymosod ar addolwyr gyda chyllyll, bwyeill, a gynnau cyn i’r ddau gael eu saethu’n farw gan yr heddlu.
Cafodd chwech o bobl eraill eu hanafu yn yr ymosodiad.
Mae Israel wedi dweud y bydd yn “ymateb yn chwyrn” i’r ymosodiad.
Dywedodd y Prif Weinidog Benjamin Netanyahu bod yr ymosodiad yn “lofruddiaeth greulon o Iddewon oedd wedi dod i weddïo.”
Mae’n dweud mai anogaeth gan y grŵp milwriaethus Islamaidd Hamas ac Arlywydd Palestina Mahmoud Abbas sydd ar fai am y trais.
Ond mae Mahmoud Abbas wedi beirniadu’r ymosodiad, y tro cyntaf iddo wneud hynny ers i’r cynnydd diweddar mewn trais yn erbyn Israeliaid ddechrau.
Galwodd hefyd ar Israel i beidio a “phryfocio” Palestiniaid ynghylch safleoedd sanctaidd.
Daw’r ymosodiad diweddaraf wrth i densiynau gynyddu yn y ddinas, gyda chyfres o ymosodiadau gan Balestiniaid ar Israeliaid, sydd wedi lladd chwech yn ystod yr wythnosau diwethaf.