Mae llawfeddyg a gafodd ei heintio gan Ebola wrth weithio yn Sierra Leone wedi marw mewn ysbyty yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Canolfan Feddygol Nebraska fod Dr Martin Salia wedi marw o ganlyniad i’r clefyd.

Cyrhaeddodd Dr Salia ddydd Sadwrn i gael ei drin yn yr ysbyty lle mae dau o gleifion eraill oedd wedi’u heintio gydag Ebola wedi derbyn triniaeth lwyddiannus.

Cafodd ei roi ar beiriant dialysis a pheiriant anadlu a rhoddwyd nifer o feddyginiaethau iddo i gefnogi ei organau ond bu farw yn fuan wedi 4 fore heddiw.

Mae mwy na 5,000 o bobl yng ngorllewin Affrica wedi marw o ganlyniad i Ebola – yn bennaf yn Liberia, Guinea a Sierra Leone. Mae pump o feddygon eraill yn Sierra Leone wedi marw o’r haint.

Roedd Dr Salia, 44, wedi bod yn gweithio fel llawfeddyg cyffredinol mewn ysbyty ym mhrifddinas Sierra Leone, Freetown.