Andrew Mitchell
Clywodd yr Uchel Lys heddiw bod “gwe o gelwyddau, twyll a diffyg disgyblaeth” gan swyddogion yr heddlu wedi golygu fod cyn brif chwip y Llywodraeth a’i deulu wedi gorfod dioddef ymgyrch yn eu herbyn gan y wasg.
Roedd James Price QC yn agor achos enllib ar ran Andrew Mitchell yn erbyn News Group Newspapers (NGN) dros stori a gafodd ei chyhoeddi ym mhapur newydd The Sun ym mis Medi 2012.
Roedd y stori yn dweud bod yr AS yn euog o fod yn sarhaus tuag at swyddogion yr heddlu yn Downing Street ddeuddydd ynghynt.
Roedd honiadau ei fod wedi galw’r heddweision yn “plebs”.
Ychwanegodd James Price fod manylion y digwyddiad a gafodd ei roi i’r papur newydd gan nifer o swyddogion yr heddlu yn “gwbl ffug”.
Mae NGN yn dadlau bod y rhan fwyaf o’r erthygl yn wir ac wrth galon eu hachos mae’r sylwadau a wnaethpwyd gan PC Toby Rowland.
Ymddiswyddodd Andrew Mitchell, 58, sy’n AS dros Sutton Coldfield, fel prif chwip dri mis ar ôl y digwyddiad.
Mae’n gwadu colli ei dymer neu ddefnyddio’r geiriau a honnwyd yn y wasg yn dilyn y digwyddiad. Er hynny, mae’n cyfaddef rhegi o dan ei wynt o flaen yr heddlu.