Mae dyn 33 oed wedi cael ei gyhuddo o ladrad yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Caerau, Casnewydd ddydd Gwener ddiwethaf.
Fe wnaeth y dyn ddechrau sgwrsio hefo dynes 57 oed y tu allan i siop Spar tua phump o’r gloch y prynhawn, a cherdded lawr y stryd hefo hi. Ond yna fe wthiodd y ddynes a dwyn ei phwrs a’i hallweddi.
Fe redodd i ffwrdd i gyfeiriad yr Hen Swyddfa Bost ond yn dilyn apêl gan yr heddlu, cafodd ei arestio.
Cafodd ei gyhuddo ar ôl ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd y bore ma.