Mae economi Japan wedi crebachu am yr ail chwarter yn olynol, sy’n golygu bod y wlad wedi llithro yn ôl i ddirwasgiad.
Mae buddsoddiadau tai a busnesau wedi gostwng yn dilyn codiad yn nhreth gwerthiant, ac wedi effeithio ar allu’r wlad i gyfrannu at yr adferiad rhyngwladol.
Roedd economi Japan wedi syrthio o 1.6% ym mis Gorffennaf-Medi, er bod disgwyl iddo godi o 2.1%.
Yn siarad ar ôl cyfarfod y G20, dywedodd Prif Weinidog Japan, Shinzo Abe: “Yn anffodus, nid oedd y Gwerth Ychwanegol Crynswth (GDP) ar gyfer mis Gorffennaf-Medi yn dda.”
Fe all dirwasgiad Japan arafu’r adferiad economaidd mewn gwelydd eraill os ydyn nhw’n rhoi’r gorau i fewnforio deunyddiau fel peiriannau, eitemau electronig neu adnoddau naturiol o’r wlad.