Mae saith o ddynion wedi cael eu cadw yn y ddalfa yng Ngogledd Iwerddon ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gyfres o droseddau brawychiaeth.

Fe wnaeth y dynion, sydd rhwng 30 a 75 mlwydd oed, ymddangos o flaen llys ynadon heddiw wedi iddyn nhw gael eu harestio nos Lun diwethaf gan heddlu oedd yn ymchwilio i mewn i weithgareddau’r Continuity IRA.

Mae pedwar o’r dynion o Weriniaeth Iwerddon ac mae tri o Ogledd Iwerddon.

Maen nhw i gyd wedi cael eu cyhuddo o fod yn aelodau o sefydliad gwaharddedig, tra bod chwech yn wynebu cyhuddiadau o gynllwynio i feddu ffrwydron gyda’r bwriad o beryglu bywyd, cynllwynio i feddu drylliau a bwledi gyda’r bwriad o beryglu bywyd a pharatoi ar gyfer gweithredoedd o frawychiaeth.

Y dynion yw Patrick Joseph Blair, 59, o Dundalk; Liam James Hannaway, 44, o Dunmurry; Joseph Matthew Lynch, 73, o Limerick; Sean O’Neill, 75, o Limerick; John Sheehy, 30, o Listowel; Seamus Morgan, 58, o Newry; a Colin Patrick Winters, 43, o Newry.