Cerys Yemm
Mae Swyddfa Crwner Casnewydd wedi cadarnhau y bydd cwest i farwolaeth Cerys Yemm, gafodd ei llofruddio mewn gwesty yn Argoed, ger Y Coed Duon yn cael ei gynnal ddydd Gwener.

Bu farw Cerys Yemm, 22, yn dilyn gweithred o ganibaliaeth honedig yn y Sirhowy Arms ychydig dros wythnos yn ôl.

Bu farw’r dyn sy’n cael ei amau o’i llofruddio, Matthew Williams, 34, hefyd wedi i’r heddlu danio gwn Taser ato a’i arestio.
Bydd y cwest yn cael ei gynnal am 10:00 y bore, ac mae disgwyl iddo gael ei agor a’i ohirio.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Gwent wedi dweud eu bod nhw’n trin yr achos fel llofruddiaeth, a bod eu hymchwiliadau’n parhau.

Maen nhw’n gwrthod manylu ar union natur yr ymosodiad, ond dywed ffynonellau fod Cerys Yemm wedi dioddef anafiadau sylweddol i’w hwyneb.