Fe gafodd mwy na 900 o bobol yng Nghymru eu cosbi am ddefnyddio eu ffonau symudol wrth yrru mewn ymgyrch gan yr heddlu’r mis diwethaf.
O fewn pythefnos 9-17 Hydref, cafodd 914 o bobol eu dal ac fe gafodd y nifer mwyaf o droseddau eu cofnodi yn ardal Dyfed Powys, gyda 447 o rybuddion yn cael eu rhoi.
De Cymru oedd yn ail, gyda 342 o rybuddion, yna Gwent gyda 72 a Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi 53 rhybudd.
Roedd Ymgyrch Atal Defnyddio Ffonau Symudol wrth Yrru yn targedu pobol oedd yn peryglu bywydau eraill trwy ateb eu ffon, darllen neges destun neu’n defnyddio’r we tra y tu ôl i’r llyw.
Damweiniau difrifol
Mae’r Prif Arolygydd Darren Wareing o Heddlu Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn “siomedig” bod gymaint o bobol yn dewis anwybyddu rhybuddion yr heddlu.
“Fe all rywbeth dynnu sylw hyd yn oed y gyrwyr mwyaf profiadol os ydyn nhw ddim yn canolbwyntio, ac fe all hynny arwain at ddamweiniau difrifol iawn.
“Gyda mwy a mwy o smart phones yn cael eu defnyddio, rydym yn gweld gyrwyr hyd yn oed darllen eu e-byst neu’r we. Fe ddylen nhw wybod bod gwneud hyn gyfystyr a ffonio y tu ôl i’r llyw.”
Ychwanegodd Susan Storch o Heddlu Dyfed Powys: “Mae gyrru wrth ddefnyddio ffon symudol yn rhoi eich bywyd chi, yn ogystal â bywydau pobol eraill, sydd heb reolaeth o’ch gweithredoedd, mewn peryg. Diffoddwch y ffôn cyn i chi gychwyn gyrru.”
Yn ystod yr ymgyrch, cafodd 113 o gosbau goryrru eu rhoi, 64 am beidio gwisgo gwregys diogelwch, pump am beidio cael yswiriant a 31 am yrru neu ddefnyddio cyffuriau wrth yrru.