Y ty yn cael ei ddymchwel heddiw
Fe fu rhieni April Jones yn gwylio heddiw wrth i gyn gartref ei llofrudd, Mark Bridger gael ei ddymchwel.

Roedd y tŷ yn cael ei rentu gan Mark Bridger, 48, pan gipiodd April Jones wrth iddi chwarae gyda’i ffrindiau ger ei chartref ar stad Bryn y Gog ym Machynlleth ar 1 Hydref 2012.

Credir bod y ferch 5 mlwydd oed wedi cael ei llofruddio yn y tŷ yng Ngheinws ger Machynlleth. Nid yw ei chorff erioed wedi cael ei ddarganfod.

Ers ei llofruddiaeth ddwy flynedd yn ôl mae rhieni April, Coral a Paul Jones, wedi galw am ddymchwel y tŷ.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru’r tŷ ym mis Ebrill fel bod modd dymchwel yr adeilad. Credir bod y Llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda’r perchennog i’w brynu am £149,000.

‘Symbolaidd’

Wrth wylio’r adeilad yn cael ei ddymchwel heddiw, dywedodd Coral Jones: “Mae wedi bod yn atgof parhaus. Rwy’n falch ei fod wedi mynd.

“Mae hyd yn oed gyrru ar y ffordd ger y pentref yn anodd.

“Mae’n dod ag atgofion erchyll o’r hyn ddigwyddodd yno.”

Ychwanegodd tad April Jones, Paul, bod dymchwel y tŷ yn “symbolaidd” ac yn “ddiwedd pennod.”

Roedd brawd a chwaer April, Harley a Jazmin, hefyd yn gwylio heddiw wrth i’r JCB ddymchwel y tŷ.

‘Atgof poenus’

Dywedodd y Cynghorydd lleol Michael Williams bod y tŷ wedi bod yn atgof poenus i bawb yn yr ardal o’r hyn ddigwyddodd yno.

“Mae pobl yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am wneud yr hyn wnaethon nhw ei addo,” meddai.

“Fe fydd pawb ym Machynlleth yn teimlo rhyddhad.

“Yn arbennig, fe fydd yn rhyddhad i Coral a Paul Jones a gweddill teulu April Jones a’r bobl sy’n byw ym mhentref Ceinws sy’n gorfod mynd heibio’r tŷ drwy’r amser, gan ddod a’r holl atgofion, fel yr ydan ni wedi cael ar ddeall, o’r gweithredoedd ffiaidd a ddigwyddodd yno.

“Gorau po gyntaf y bydd yn diflannu.”

Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth fydd yn digwydd i’r safle ar ôl i’r tŷ gael ei ddymchwel ac mae Coral a Paul Jones wedi dweud nad ydym am weld gardd goffa i’w merch yno. Maen nhw’n dweud mai’r gymuned fydd yn cael dewis beth fydd yn digwydd i’r safle.

Mae Mark Bridger wedi cychwyn dedfryd o oes yn y carchar am lofruddio April Jones.