Seremoni Sul y Cofio yn Aberystwyth Llun: Jeff Smith
Bu’n rhaid i Gyngor Tref Aberystwyth ail-osod torchau ar gofeb rhyfel ar ôl iddyn nhw gael eu tynnu i ffwrdd a’u rhoi yn y bin yn dilyn seremoni ar Sul y Cofio.
Fe gafodd pedair torch eu symud o’r gofeb yr wythnos diwethaf ac mae cynghorydd lleol wedi dweud fod y weithred yn “amharchus” ac yn un sydd wedi “bychanu” aberth y milwyr.
Wedi i’r torchau gael eu darganfod mewn bin cyfagos ddydd Llun, fe gawson nhw eu hail-osod mewn seremoni fer am 11:00 fore dydd Gwener ddiwethaf.
Aelodau o Gyngor Tref Aberystwyth, Côr Gobaith, Rhwydwaith Heddwch a Chyfiawnder Aberystwyth, a Merched mewn Du ddaeth ynghyd i gynnal y seremoni.
Nid yw’r mudiadau yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am roi’r torchau yn y bin.
Siom
Fe ddywedodd y cynghorydd lleol, Jeff Smith, wrth golwg360 nad oes lle i’r fath ymddygiad yn y dref:
“Dwi wedi fy synnu a’n siomi bod y torchau wedi cael eu tynnu.
“Roedd y weithred hon yn amharchus tuag at bob un sydd wedi marw, wedi cael anafiadau neu wedi dioddef mewn rhyfeloedd, ac nid oes lle am y fath ymddygiad yn Aberystwyth.
“Rwyf wedi mynychu seremoni’r pabi gwyn yn ogystal â seremoni’r pabi coch sawl gwaith, ac mae’r seremonïau wastad wedi bod yn deimladwy a pharchus iawn. Mae’n drueni bod rhyw unigolyn heb ddangos yr un parch tuag at y torchau, ac wedi bychanu aberth pob un sydd wedi marw neu wedi dioddef mewn rhyfeloedd.”
Ychwanegodd Pat Richards, o Merched mewn Du: “Mae’r fandaliaeth yma wedi fy ngwneud yn drist a digalon am yr anwybodaeth a geir, hyd yn oed yn Aberystwyth.”