Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Mae grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd wedi pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei chynnwys mewn unrhyw ddeddfwriaeth newydd wrth edrych ar faterion cynllunio.

Daw’r alwad wedi i gynghorwyr Plaid Cymru lobïo bod angen i Lywodraeth Cymru gynnig statws cyfreithiol i’r iaith yn y ddeddf gynllunio newydd.

Yn gynharach y mis hwn, mewn llythyr agored, roedd arweinwyr cynghorau leded Cymru yn “erfyn” ar Lywodraeth Cymru i newid y Bil Cynllunio er mwyn cryfhau’r sylw i’r iaith Gymraeg. Doedd Dyfrig Edwards, arweinydd Cyngor Gwynedd, ddim wedi arwyddo’r llythyr.

Nawr, mae grŵp Plaid Cymru yn dweud y bydd cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod Bil Cynllunio newydd y Llywodraeth yn fuan cyn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Elfen bwysig arall i’r Bil Cynllunio y mae Grŵp Plaid Cymru’n awyddus i’w bwysleisio yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Maen nhw’n credu y bydd cyfle o fewn y Fframwaith i atgyfnerthu statws yr iaith Gymraeg ar lefel genedlaethol o fewn y system gynllunio.

Yn ôl Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn: “Mae’r bil cynllunio yma’n gyfle i roi statws deddfwriaethol i’r iaith Gymraeg o fewn y drefn gynllunio Gymreig.

“Byddai hynny’n rhoi sail gref wrth ystyried yr iaith Gymraeg yn y system gynllunio er mwyn sicrhau bod iaith a diwylliant cymunedau Gwynedd a Chymru gyfan yn cael eu gwarchod a chael cyfle i ffynnu.”

“Hoffwn fel Cadeirydd Grŵp Plaid Cymru ddatgan yn glir a di-flewyn ar dafod, bod Tîm Plaid Cymru Gwynedd wedi arwain y gwaith o bwyso a lobïo ar y newid hwn i’r Bil Cynllunio newydd a byddwn yn parhau i wneud hynny.