David Cameron
Mae David Cameron wedi rhybuddio y gall argyfwng economaidd arall fod ar y gorwel os nad yw cyflwr yr economi rhyngwladol yn sefydlogi.

Roedd y Prif Weinidog yn siarad wedi iddo gwrdd ag arweinwyr byd yng nghynhadledd y G20 yn Brisbane, Awstralia ac fe ddywedodd bod effaith y gwrthdaro mewn llefydd fel y Dwyrain Canol yn “peri risg sylweddol” i economi Prydain.

Mewn erthygl yn y Guardian, roedd hefyd yn annog Prydeinwyr i gefnogi ei gynllun hir dymor i sefydlogi’r economi gan ddweud bod “golau coch” yn fflachio unwaith eto – chwe blynedd ar ôl i’r dirwasgiad diwethaf gychwyn.

“Pan wnes i gwrdd â’r arweinwyr byd yn y G20 yn Brisbane, roedd y problemau yn amlwg,” meddai David Cameron.

“Mae parth yr Ewro ar fin disgyn i ddirwasgiad am y trydydd tro, gyda ffigyrau diweithdra uchel, twf economaidd yn disgyn a risg y bydd prisiau yn disgyn hefyd.

“Mae masnach ryngwladol wedi dod i stop ac mae’r epidemig Ebola, yr ymladd yn y Dwyrain Canol a gweithredoedd Rwsia yn yr Wcráin yn cyfrannu at gefndir peryglus o ansefydlogrwydd ac ansicrwydd.”

‘Diogelu Prydain’

Ychwanegodd y Prif Weinidog bod y problemau rhyngwladol hyn yn “peri risg sylweddol i’n hadferiad ni”:

“Allwn ni ddim ynysu ein hunain yn gyfan gwbl, ond mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein hunain.

“Mewn chwe mis, fe fydd Prydain yn wynebu dewis: y cynllun hirdymor sydd wedi ein gweld yn ffynnu, neu atebion hawdd sydd am arwain at fethiant.”

“Trwy ddal ymlaen gyda’n cynllun hirdymor, mi fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod ein heconomi a rhoi dyfodol cadarn i deuluoedd sy’n gweithio’n galed.”

Ond mae Llafur wedi beirniadu ei sylwadau gan ddweud eu bod yn dangos nad yw ei gynlluniau i adfer economi Prydain yn gweithio.