Mae gweithwyr wedi dechrau casglu’r rwbel o safle damwain awyren Malaysia Airlines MH17 yn nwyrain Wcrain, bedwar mis wedi i’r awyren gael ei saethu i’r ddaear.

Mae’r ymgyrch yn digwydd dan arolygiaeth archwilwyr o’r Iseldiroedd a sefydliad sy’n gwarchod cydweithio a diogelwch yn Ewrop.

Fe fydd pob darn o’r awyren yn cael ei lwytho ar drenau a’u cludo i ofal llywodraeth yr Wcrain yn ninas Kharkiv.

Bu farw pob un o’r 298 o bobol ar fwrdd yr awyren Boeing 777 a oedd yn hedfan o Amsterdam i Kuala Lumpur ar Orffennaf 17.