Mae corff menyw wedi’i ganfod ar draeth Aberafan ym Mhort Talbot.

Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru mai aelod o’r cyhoedd a ddaeth o hyd i’r corff amser cinio dydd Sadwrn.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n ymchwilio i’r farwolaeth, gan geisio adnabod y corff ac olrhain yr hyn ddigwyddodd cyn ei marw.