Gareth Bale yn ymarfer yr wythnos hon cyn y gêm (llun: CBDC)
Fe fydd Cymru’n gobeithio cipio o leiaf pwynt pan fyddwn nhw’n herio Gwlad Belg yn eu gêm ragbrofol Ewro 2016 heno, wrth iddyn nhw geisio aros ar frig y grŵp.

Mae tîm Chris Coleman yn teithio i Frwsel ar ôl sicrhau saith pwynt o’u tair gêm gyntaf, ac mae hynny wedi codi gobeithion y cefnogwyr y gall Cymru gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc yn 2016.

Bydd dros 3,000 o gefnogwyr Cymru yn y ddinas ar gyfer y gêm – 2,400 o’r rheiny â thocynnau, a’r gweddill yn gwylio yn un o dafarndai’r ddinas.

Ac mae gan Coleman garfan gryf ar gyfer y gêm, gyda’i brif sêr gan gynnwys seren Real Madrid Gareth Bale i gyd yn ffit.

Gwrthwynebwyr heriol

Gwlad Belg fydd y ffefrynnau ar gyfer y gêm, gan eu bod nhw wedi cyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd eleni a bellach yn bedwerydd yn rhestr detholion y byd.

Mae gan garfan Gwlad Belg nifer o enwau cyfarwydd i ddilynwyr pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr gan gynnwys Eden Hazard, Romelu Lukaku, Thibaut Courtois, Marouane Fellaini a Christian Benteke.

Ond y newyddion da i Gymru yw na fydd capten Gwlad Belg, yr amddiffynnwr Vincent Kompany, yn ffit i chwarae ar ôl iddo anafu ei goes.

Ac mae chwaraewyr Cymru yn synhwyro bod ganddyn nhw gyfle, gyda’r golwr Wayne Hennessey yn dweud bod Bale yn barod i “gosbi” unrhyw wendidau yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Mynnodd yr asgellwr Hal Robson-Kanu fod y garfan yn “hyderus” o gael o leiaf gêm gyfartal yn Stadiwm Roi Badouin heno.

Ac fe ddywedodd chwaraewr canol cae Cymru, Emyr Huws, mewn cyfweliad fideo â golwg360 fod gan y tîm ddim byd i’w golli o ystyried cryfder y gwrthwynebwyr.

Brig y grŵp

Yn ogystal â gêm Cymru a Gwlad Belg heno fe fydd dwy gem arall yn cael ei chwarae yng Ngrŵp B, gydag Israel yn herio Bosnia-Herzegovina a Chyprus yn chwarae Andorra.

Os yw Cymru’n ennill yn erbyn Gwlad Belg fe fyddwn nhw’n aros ar frig y grŵp ar ôl pedair gêm.

Petai Cymru yn cael gêm gyfartal yng Ngwlad Belg, ac Israel yn methu â churo Bosnia, byddai bechgyn Coleman hefyd yn aros ar y brig.

Ond os ydyn nhw’n colli yna fe fydd Gwlad Belg neu Israel yn codi i’r safle cyntaf nes fis Mawrth, pan fydd y gemau cystadleuol nesaf.