Mae tri o fyfwyr o Hong Kong, sydd wedi bod yn arwain y protestiadau tros fwy o ddemocratiaeth yno, wedi cael eu gwahardd rhag teithio i Beijing i gyfarfod prif swyddogion Chineaidd.
Fe gyrhaeddodd Alex Chow, Nathan Law ac Eason Chung – aelodau o grwp o fyfyrwyr fu’n trefnu protestiadau stryd ers tua dau fis – faes awyr Hong Kong a’u hannerch gan bobol yn dymuno’n dda iddyn nhw.
Ond fe gawson nhw eu gwahardd rhag mynd ar yr awyren Cathay Pacific, ac fe ddaeth datganiad swyddogol yn dweud nad oedd y dogfennau yr oedden nhw eu hangen i deithio i brifddinas China, yn ddilys.
Fe adawodd y myfyrwyr y maes awyr, ac fe drefnwyd cynhadledd i’r wasg.