Fe fydd cronfa ryngwladol yr IMF yn rhoi pecyn gwerth £190m ($300m) o help i wledydd Affrica sydd wedi’u taro gan y clefyd marwol, Ebola.
Fe ddaeth y cyhoeddiad wrth i arweinwyr gwledydd G20 gyfarfod yn Brisbane, Awstralia.
Mewn datganiad ar ddiwedd diwrnod cynta’r uwch-gynhaledd, fe groesawodd yr G20 y pecyn gan yr IMF, gan ddweud fod yr aelodau “wedi ymrwymo i wneud yr hyn sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau fod yr ymdrech ryngwladol yn cael y gorau ar Ebola, a’i effeithiau hirdymor ym meysydd economaidd a dyngarol”.
Doedd yna ddim cyhoeddiad y byddai’r 20 o wledydd sy’n aelodau o’r G20 eu hunain yn cyfrannu mwy o arian i’r ymgyrch.
Mae’r pecyn gan yr IMF yn cynnwys cyfuniad o fenthyciadau, canslo dyledion a chyflwyno grantiau i wledydd Liberia, Sierra Leone a Guinea.