Mae disgwyl i bedwar dyn ymddangos gerbron llys ddydd Llun, yn dilyn ymchwiliad i werthiant Clwb Pel-droed Rangers yn 2011.
Fe gafodd y dynion eu harestio ddoe gan Heddlu’r Alban fel rhan o ymgyrch ar y cyd gyda swyddogion o Loegr.
Mae’r dynion – yn eu 50au – wedi’u cyhuddo o fod yn rhan o sgem dwyllodrus i brynu’r clwb.
Mae un ohonyn nhw hefyd wedi’i gyhuddo o torri Deddf y Cwmniau, tra bod tri wedi gwyrdroi cwrs cyfiawnder, yn honedig.
Mae disgwyl iddyn nhw ymddangos gerbron Llys Siryf Glasgow ddydd Llun.