Rurik Jutting
Fe fydd profion seiciatryddol yn cael eu cynnal ar y bancwr o Brydain, Rurik Jutting, sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio dwy ddynes o Indonesia yn ei fflat yn Hong Kong.
Fe ymddangosodd Jutting, 29, sy’n dod o Cobham yn Surrey yn wreiddiol, gerbron llys yn Hong Kong heddiw ar gyfer gwrandawiad.
Mae’r barnwr wedi gohirio’r achos am bythefnos tra bod asesiadau seiciatryddol yn cael eu cynnal i ddarganfod a yw Jutting yn iawn i sefyll ei brawf ar gyhuddiad o lofruddio’r ddwy ddynes.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.