Mae grŵp sy’n cynrychioli busnesau wedi cyhoeddi cynlluniau “radical” i geisio gwella safonau byw gweithwyr ar gyflogau isel.

Maen nhw’n cynnwys codi’r trothwy ar gyfer talu Yswiriant Cenedlaethol ac ymestyn gofal i blant yn rhad ac am ddim.

Dywedodd y CBI na all y wasgfa ar gyllidebau pobl “barhau am byth” wrth i’r grŵp ddatgelu cyfres o gynlluniau.

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol John Cridland yn derbyn y gallai’r argymhellion fod wedi cael eu gwneud gan undebau llafur ond dywedodd fod busnesau am i dwf economaidd weithio i bawb.