Mae ansawdd bywyd nifer fawr o bobl hŷn Cymru sy’n byw mewn cartrefi gofal yn “annerbyniol”, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Gomisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

Cyhoeddwyd yr adroddiad yn dilyn adolygiad y Comisiynydd, Sarah Rochira, ar ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn – yr adolygiad mwyaf o’i fath – wnaeth ddarganfod nad yw nifer o bobol sy’n byw mewn cartrefi gofal yn gallu gwneud yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw mwyach.

Daeth i’r casgliad hefyd bod pobol hŷn mewn cartrefi yn colli’r gallu i “ddewis a rheoli eu bywydau” ac nid yw eu hawliau sylfaenol yn cael eu hamddiffyn, yn ôl y Comisiynydd.

Wrth siarad ynglŷn â’r adroddiad, ‘Lle i’w Alw’n Gartref?’, dywedodd Sarah Rochira:

“Er bod fy Adolygiad wedi canfod enghreifftiau gwych o ofal ble mae’r unigolyn wirioneddol yn ganolog, sy’n galluogi ac yn grymuso gofal sy’n rhoi’r canlyniadau gorau i bobl hŷn, mae amrywiaeth sylweddol ar draws Cymru sy’n golygu bod gan ormod o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd annerbyniol.”

Gweithredu

Ychwanegodd: “Mae’r adroddiad ar fy Adolygiad felly am i’r holl gyrff priodol gyflawni’r newidiadau angenrheidiol yn y cartrefi gofal a sicrhau bod ansawdd bywyd yn ganolog i ddarpariaeth gofal preswyl a gofal nyrsio ledled Cymru.”

Roedd yr Adolygiad yn edrych ar y ffactorau a all gael effaith ar ansawdd bywyd pobl hŷn mewn cartrefi gofal, megis:

• cyfranogi cymdeithasol
• awyrgylch y cartref gofal
• mynediad i ofal iechyd
• diet
• gallu a hyfforddiant staff

Bu’r Comisiynydd yn ymweld â 100 o gartrefi gofal ar draws Cymru yn ddirybudd i glywed am brofiadau a barn bobl hŷn am eu gofal.

‘Anodd i ddarllen’

“Mae’n anodd darllen canlyniadau fy Adolygiad, ond wrth beidio â chydnabod y newidiadau angenrheidiol, rydym yn tanseilio’r gofal da sydd ar gael ac yn rhwystro ein hunain rhag darparu’r gofal gorau ar gyfer yr holl bobl hŷn,” meddai’r Comisiynydd.

“Mae’n hanfodol bod y gofynion gweithredu yn cael eu hateb i sicrhau bod ansawdd bywyd yn ganolog i’r system cartrefi gofal, ar bob lefel o gomisiynu i ddarparu gofal ar y llinell flaen.”

‘Carreg filltir’

Mae’r adroddiad wedi cael ei groesawu gan sefydliadau fel Cyngor Gofal a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Yn ôl y Cyngor Gofal, mae’r canfyddiadau yn “atgyfnerthu pwysigrwydd arweinyddiaeth o safon a buddsoddiad parhaus yn y gweithlu.”

“Mae’r adroddiad yn garreg filltir ac yn un i’w groesawu’n fawr,” ychwanegodd Rhian Huws Williams, Prif Weithredwr y Cyngor Gofal.

“Gyda’r newidiadau o’n blaenau, mae angen arweinwyr a rheolwyr ysbrydoledig ar Gymru, i fod yn geffylau blaen.”

Allweddol

Ychwanegodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: “Mae’r gwasanaethau gofal allweddol sy’n cael eu darparu gan lywodraeth leol o dan fwy o bwysau ariannol nag erioed o’r blaen.

“Ond mi fyddwn ni’n parhau yn llwyr ymrwymedig i weithio’n agos gyda Chomisiynydd Pobol Hŷn Cymru i weithredu argymhellion yr adroddiad ac i wella safon y gofal sy’n cael ei dderbyn yng nghartrefi Cymru.”

Ac yn ôl llefarydd Pobol Hŷn y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts: “Mae’r adroddiad yn dangos bod diwylliant o dicio’r bocs wedi cael ei ddisodli gan yr awydd i ddarparu gofal sy’n rhoi lles y bobol hŷn yn gyntaf.

“Mi fyddaf yn cefnogi’r Comisiynydd i weithredu’r newidiadau sydd wedi eu hamlygu yn ei hadroddiad ac rwy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn rhan o’r broses honno.”