Cerys Yemm
Mae mam dyn sy’n cael ei amau o lofruddio dynes mewn ymosodiad canibalaidd wedi dweud y dylai ei mab “fod wedi bod yn yr ysbyty.”

Bu farw Cerys Marie Yemm, 22 oed, o’i hanafiadau yng ngwesty’r Sirhowy Arms, llety dros dro i bobl ddigartref, yn Argoed, y Coed Duon, yn oriau man bore dydd Iau.

Roedd Matthew Williams, fu’n ymosod arni, wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar a bu farw yntau yn y gwesty yn fuan ar ôl i’r heddlu danio gwn Taser ato a’i arestio.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth adolygu’r gofal a gafodd Williams, 34, ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar.

Clywed lleisiau

Dywedodd ei fam, Sally Ann, wrth y BBC bod ei mab wedi cymryd cyffuriau’n gyson, yn dioddef o baranoia sgitsoffrenig, ac wedi gwrthod ei chais iddo fynd i weld meddyg.

“Roedd yn gweld pethau nad oedd yno, roedd yn clywed lleisiau, yn dweud bod bwyd yn ceisio ei wenwyno. Roedd yn ymosodol tuag at bobl yr oedd yn credu oedd yn fygythiad iddo,” meddai wrth y BBC.

“Fe ddylai fod wedi bod yn yr ysbyty. Bob tro roedd o’n dod allan o’r carchar fe fyddwn ni’n mynd drwy’r un broses. Fe fyddai’n cael ei roi mewn hostel yn rhywle gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth a dim cymorth seiciatrig o’r tu allan.”

Y tro olaf iddi weld ei mab, meddai, oedd y diwrnod cyn yr ymosodiad a’u bod wedi trefnu i gwrdd y diwrnod canlynol.

Galw am ymchwiliad

Yn y cyfamser mae Heddlu De Cymru wedi dechrau ymchwiliad i’r llofruddiaeth ac mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) hefyd yn ymchwilio i’r achos. Nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’i marwolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder y byddai adolygiad trosedd ddifrifol yn cael ei gynnal i weld a oes gwersi i’w dysgu o’r achos.

Mae adolygiadau’n cael eu cynnal pan mae troseddu ddifrifol honedig wedi digwydd o fewn 30 diwrnod o ryddhau person o’r carchar neu os ydyn nhw ar drwydded.

Mae’r Aelod Cynulliad William Graham wedi galw am ymchwiliad i adroddiadau nad oedd Williams yn cael ei fonitro ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar.

Mae teulu Cerys Yemm yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol yn eu cartref yn Oakdale.