Mwy o gwestiynau am prosiect Pont Briwet newydd,
Mae nifer o Gynghorwyr yn galw am wybodaeth fanwl ynglŷn â datblygiad Pont Briwet, a chraffu manwl i’r gwaith datblygu hyd yma.
Daw’r alwad yn dilyn misoedd o oedi a diffyg eglurder ar sut a phryd y bydd cyfnodau allweddol yn y gwaith o adeiladu’r bont newydd rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau yn digwydd.
Mae Cynghorwyr yn teimlo’n hynod rwystredig bod diffyg eglurder yn y wybodaeth sy’n dod gan y contractwr, Hochtief ar adeg pan mae rhai busnesau yn brwydro i oroesi gaeaf hir arall.
“Gymaint o Anghysondebau”
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Harlech, Caerwyn Roberts: “Mae’n frawychus meddwl bod prosiect gwerth £ 19.5miliwn i adeiladu Pont Briwet newydd rhwng Penrhyndeudraeth a Thalsarnau yn parhau i fod â chymaint o anghysondebau.
“Mae Cynghorwyr Plaid Cymru, Anwen Hughes, Llanbedr, Dilwyn Morgan, Y Bala a minnau, wedi galw am graffu llawn a manwl o’r sefyllfa hyd yma.
“Nid ydym yn hapus bod pobl a busnesau lleol yn parhau i deimlo cymaint o ansicrwydd ac anghysonderau ynglŷn â’r sefyllfa.”
Daw’r alwad ychydig wythnosau ers i Gynghorydd Gareth Thomas, Penrhyndeudraeth alw ar y contractwr, Hochtief, i ddefnyddio’r arian, sy’n cael ei ddefnyddio i hebrwng traffig ar hyd rhan o’r ffordd gul, i adeiladu pont dros dro yno.
Ei fwriad oedd sicrhau bod pobl leol a busnesau yn cael chwarae teg.