Mae ofnau bod rhagor o ymosodiadau milwrol ar y gweill yn yr Wcrain, lle mae dros 80 o gerbydau milwrol wedi cael gweld yn symud mewn ardaloedd sydd yn nwylo’r gwrthryfelwyr.

Mae tair colofn o gerbydau wedi cael eu gweld gan newyddiadurwyr heddiw, un gerllaw cadarnle’r gwrthryfelwyr yn Donetsk, a dwy arall gerllaw tref Snizhne, 50 milltir ymhellach i’r dwyrain.

Tryciau’n cludo arfau oedd y mwyafrif o’r cerbydau ond roedd o leiaf un yn gerbyd arfog ar gyfer cludo milwyr.

Yn ôl llywodraeth yr Wcrain, mae lluoedd y gwrthryfelwyr wedi derbyn arfau a milwyr ychwanegol gan Rwsia, ond mae Rwsia’n gwadu’r honiad.

Er bod cadoediad mewn grym ers mis Medi, mae gwrthdaro rheolaidd rhwng milwyr yr Wcrain a’r gwrthryfelwyr, gyda’r ymladd gwaethaf o gwmpas maes awyr Donetsk.