Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau bod pedwar dyn rhwng 19 a 27 oed wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i ymosodiadau brawychol Islamaidd.
Cafodd y pedwar eu harestio mewn gwahanol rannau o orllewin Llundain a High Wycombe nos Iau.
Y gred yw eu bod yn cael eu hamau o gynllwynio ymosodiad brawychol ym Mhrydain, gydag ofnau y bydd rhai o ddigwyddiadau’r Cadoediad yn cael eu targedu.
Mae disgwyl y bydd llawer mwy o heddlu arfog mewn digwyddiadau Sul y Cofio yn Llundain yfory oherwydd ofnau ymosodiad o’r fath.