Yn dilyn llofruddiaeth erchyll merch ifanc mewn gwesty ger y Coed Duon ddydd Iau, mae cwestiynau’n cael eu gofyn pam na chafodd troseddwr mor dreisgar a pheryglus ei rwystro.
Fe fu farw Cerys Marie Yemm, 22 oed, ar ôl dioddef yr hyn sy’n ymddangos fel ymosodiad canibalaidd gan Mathew Williams yng ngwesty’r Sirhowy Arms, hostel i’r digartref ym mhentref Argoed. Fe fu farw yntau hefyd yn ddiweddarach ar ôl cael ei saethu â dryll taser gan yr heddlu.
Roedd Williams newydd gael ei ryddhau o’r carchar ar ôl cael ei ddedfrydu am droseddau treisgar.
Mae un o’r Aelodau Cynulliad lleol, William Graham, wedi galw am ymchwiliad ar frys i’r digwyddiad.
“Mae’n amlwg bellach fod Mr Williams yn peri risg i’r cyhoedd, a dw i’n bryderus iawn na chafodd ei fonitro’n ddigonol,” meddai.
“Mae angen ymchwiliad ar frys i’r amgylchiadau ynghylch ei ryddhau.
“Mae cwestiynau y mae’n rhaid i’r awdurdodau eu hateb, a rhaid cael esboniad llawn am y penderfyniadau a gafodd eu gwneud yn yr achos hynod drychinebus yma.”
Apelio am breifatrwydd
Dywed Heddlu Gwent fod teulu Cerys Yemm yn apelio am breifatrwydd dros y dyddiau nesaf, ac yn gofyn i newyddiadurwyr beidio â cheisio cysylltu â nhw nac aelodau’r teulu estynedig am sylw.
“Dydyn nhw ddim yn bwriadu cyhoeddi teyrnged ar hyn o bryd ond byddan nhw’n cyhoeddi datganiad yn y dyfodol, fe fydd hyn trwy swyddfa Heddlu Gwent,” meddai llefarydd ar an yr heddlu.
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau hefyd nad ydyn nhw’n chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dywedodd llefarydd eu bod nhw’n trin yr achos fel llofruddiaeth, a bod eu hymchwiliadau’n parhau. Maen nhw’n gwrthod manylu ar union natur yr ymosodiad, ond dywed ffynonellau fod Cerys Yemm wedi dioddef anafiadau sylweddol i’w hwyneb.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu hefyd yn ymchwilio i farwolaeth Mathew Williams, fel sy’n arferol pan fo rhywun wedi marw yn y ddalfa.
Arferai’r Sirhowy Arms fod yn dafarn boblogaidd cyn iddi gael ei throi’n llety dros dro i bobl ddigartref.