Mae disgwyl i gannoedd o gystadleuwyr heidio i Rosllannerchrugog, ger Wrecsam, heddiw ar gyfer yr Ŵyl Gerdd Dant.

Cafodd yr ŵyl undydd ei sefydlu yn 1934, sy’n golygu ei bod yn dathlu ei phenblwydd yn 80 oed eleni.

Bydd y cystadlu yn cael ei ddangos yn fyw ar wefan ar S4C rhwng hanner dydd a saith y nos, ac ar y teledu am wyth.

Hon fydd yr ŵyl olaf i’r trefnydd presennol, Dewi Prys Jones – neu Dewi Llangwm – sydd wedi bod wrth y llyw ers blynyddoedd lawer.

Y tenor a’r arweinydd côr adnabyddus John Eifion fydd yn cymryd yr awenau o fis Ionawr 2015 ymlaen.

‘Hollol unigryw’

Dywedodd John Eifion wrth Golwg bod angen mwy o sylw i gerdd dant – a hynny gydol y flwyddyn:

“Does yna ddim byd yr un fath ag o,” meddai.

“Ydi, mae’n cael ei ddiwrnod bob blwyddyn ar y cyfryngau ond mae’n destun syndod weithiau pam nad oes mwy o sylw yn cael ei roi i rywbeth sy’n hollol unigryw i ni fel cenedl.

“Mae rhyw deimlad gen i ein bod ni’n tueddu i feddwl – ‘o mi wnaiff o’n iawn yng nghanol mis Tachwedd, a dyna fo’.

“Dw i’n teimlo y dylwn ni drio edrych ar bob ffurf bosib i drio cael mwy o gerdd dant fel arlwy ar y cyfryngau yma yng Nghymru cymaint ag sy’n bosib.”