Fe fydd cyn-flaenasgellwr Cymru Dafydd Jones yn olrhain hanes un o dimau rygbi mwyaf llwyddiannus y genedl mewn rhaglen arbennig ar ddydd Sul Y Cofio.

Mae’r Pymtheg Olaf yn dilyn stori tîm rygbi 1914, wrth i nifer o’r tîm a enillodd dair Camp Lawn rhwng 1908 a 1911 baratoi i fynd i’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ystod eu dyddiau chwarae roedd y tîm yn adnabyddus am fod yn gorfforol, gyda’r blaenwyr yn ennill y llysenw ‘terrible eight’.

Ond pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr fe ymrestrodd naw o’r tîm yn y fyddin, chwe wythnos wedi eu gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwerddon.

Roedd Dafydd Jones, fydd yn cyflwyno rhaglen ei hun am y tro cyntaf, yn awyddus i geisio deall y meddylfryd hynny wrth ymchwilio i’r rhaglen.

“Dw i wedi holi fy hunan sawl gwaith, a dw i’n ffaelu dychmygu’r peth, chwarae rygbi un wythnos ac wedyn yn brwydro yn y ffosydd yr wythnos wedyn,” meddai cyn seren Cymru a Llanelli, sydd bellach yn sylwebydd rygbi.

“Doedd neb yn gwybod pa mor erchyll oedd pethau am fod. Roedd e bron a bod yn ffasiwn eu bod fod nhw moyn mynd i’r fyddin.”

Gwyliwch ragflas o’r rhaglen yma:

Ffosydd Ffrainc

Yn y rhaglen gwelir Dafydd Jones yn teithio i Ffrainc i olrhain hanes y chwaraewyr, gan weld rhestr o’r rhai a fu farw ym mrwydr y Somme ar gofeb Thiepval.

“Roedd e’n brofiad anhygoel,” meddai’r cyflwynydd. “Yn bersonol doeddwn i ddim yn gwybod lot am Y Rhyfel Byd Cyntaf cyn mynd mas ’na, a gwneud y rhaglen yma. Fi wedi bod yn yr amgueddfa, gweld y lluniau, a dw i’n gallu uniaethu – ond fi’n ffaelu dychmygu!”

Bydd Y Pymtheg Olaf i’w weld nos Sul am saith ar S4C.