The Force Awakens yw enw ffilm newydd Star Wars.

Ers misoedd bu cefnogwyr pybyr yn ceisio dyfalu enw’r seithfed ffilm yn y gyfres.

Mae The Force Awakens yn adrodd yr hanes 30 mlynedd wedi’r digwyddiadau yn y ffilm Return of the Jedi, ac mae’r hen wynebau Carrie Fisher, Harrison Ford a Mark Hamill yn eu holau.

Cyfarwyddwyd y ffilm newydd gan JJ Abrams, yr Ianc roddodd gwynt o’r newydd yn hwyliau’r ffilmiau Star Trek.

Bydd y ffilm i’w gweld yn y sinema ymhen blwyddyn.