Mae’r prifardd Guto Dafydd, a enillodd Goron yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn un o enillwyr Cystadleuaeth Ysgrifennu Creadigol Rhyngwladol Dylanwad – Agorwch Ddrws Dychymyg.

Fe ddaeth i’r brig yn y categori 19 – 25 oed gyda’i gerdd ‘Snogio’n Blu’.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o raglen addysg gan Lenyddiaeth Cymru, Dylanwad 100, yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas.

Fe gafodd dros 500 o geisiadau o bedwar ban y byd eu derbyn – gan gynnwys yr Unol Daleithiau, India, Awstralia, Pakistan, Hong Kong, Indonesia, a’r Emiradau Arabaidd Unedig.

Enillwyr

Mewn pedwar categori o 7-25 oed, enillwyr y prif wobrau yn y Gymraeg oedd: Guto Dafydd o Bwllheli (19 – 25oed), Lois Llywelyn o Bwllheli (16-18oed), Huw Jones Evans o Bwllheli (12 – 15oed) a William Gledhill o Gaerfyrddin (7 – 11oed).

Fe fydd y gweithiau buddugol yn cael eu darlledu ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, a’u cyhoeddi yn New Welsh Review, Planet, Taliesin, Y Neuadd ac ar wefan Dylanwad: www.dylanwad100.com

Dychymyg

Anni Llŷn, Hannah Ellis, Bethan Gwanas, ac Ellen Caldecott oedd yn beirniadu gyda’r Gweinidog Addysg a Sgiliau, Huw Lewis yn cyflwyno’r gwobrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

“Dyma gystadleuaeth sydd wedi gwneud yn union beth mae hi’n ddweud ar y tin, wedi agor drws dychymyg! Mae’r ymateb wedi bod yn greadigol iawn ac mae hi wedi bod yn bleser beirniadu,” meddai Anni Llŷn.