Joshua Ferris
Yr awdur o America, Joshua Ferris, sydd wedi ennill Gwobr Dylan Thomas eleni, ynghyd a £30,000.
Mae’r wobr yn cael ei hystyried y wobr uchaf ei bri i awduron ifanc sy’n sgwennu yn y Saesneg.
Roedd beirniad y gystadleuaeth yn cynnwys y gantores Cerys Matthews; y colofnydd Allison Pearson; sylfaenydd Gwyl y Gelli Peter Florence; a sylfaenydd a Llywydd Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas, Peter Stead.
Roedd amrywiaeth o farddoniaeth, rhyddiaith a drama wedi eu cynnwys ar y rhestr fer, gydag awduron fel Owen Sheers o Gymru hefyd yn y ras.
Ond cyhoeddwyd heno mai Joshua Ferris ddaeth i’r brig gyda’i waith To Rise Again at a Decent Hour (Viking).
Cafodd ei lyfr – sy’n nofel dywyll, ddigrif, am ystyr bywyd – hefyd ei enwi ar restr fer y Wobr Man Booker.
‘Athrylith’
Dywedodd Peter Stead: “Mae llyfr Joshua Ferris am ddeintydd o Efrog Newydd sy’n ceisio delio hefo’r rhwystredigaeth o’i swydd, ei berthnasau a’i hunaniaeth yn crynhoi’r egni a’r hiwmor sydd yn cyfrannu at greu Efrog Newydd.”
Ychwanegodd Peter Florence: “Mae dod o hyd i bobol sy’n medru creu comedi allan o gomedi dynol yn brin ac yn hyfryd. Mae’n beth anodd iawn i’w wneud ac mae hi’n cymryd athrylith i’w gyflwyno ar dudalen.”