Roedd Raymond Osborne-Jones yn golofnydd i'r Cymro
Mae un o gymeriadau adnabyddus byd Talwrn y Beirdd a’r cobiau Cymreig yng Ngheredigion, Raymond Osborne-Jones wedi marw yn dilyn salwch byr.
Roedd yn aelod o dîm Talwrn Ffair Rhos ac yn cadw cobiau ar ei fferm, yn ogystal â bod yn golofnydd i’r Cymro.
Roy Stephens a Dic Jones a’i ddysgodd i gynganeddu, ac roedd yn ffrindiau mawr â Julian Cayo-Evans, cyd-sylfaenydd Byddin Ryddid Cymru.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei gyfaill Lyn Ebenezer ei fod yn “foi cymdeithasol iawn, yn gwmnïwr a chanddo hiwmor arbennig, sych a chynnil”.
Dywedodd wrth Golwg360: “Ro’n i’n ei nabod e ’ddâr bo ni’n blant.
“Daethon ni’n ffrindie wedyn, ac roedden ni’n ffrindiau â Cayo’r FWA.
“Fe ddes i i’w nabod e orau pan oedden ni’n dau yn barddoni gyda thîm Ffair Rhos, ac fe fydden ni’n cwrdd yn aml i drafod y tasgau ac yn y blaen.
“O ran y cobiau, roedd e’n sgrifennu erthyglau dan y ffugenw Sherlock Jones i’r Welsh Cob Review. Braidd neb oedd yn sylweddoli pwy oedd yn eu sgrifennu nhw. Roedd e’n sgrifennu erthyglau pryfoclyd!”
‘Bydd yn wag iawn yma hebddo fe’
Ychwanegodd eu bod nhw wedi bwriadu cyd-ysgrifennu cyfrol am y cobiau Cymreig.
Dywedodd mai ei ddiddordeb diweddaraf oedd corgwn Cymreig, a’i fod wedi dechrau eu bridio.
Ychwanegodd: “Roedd e’n foi deallus iawn, yn genedlaetholwr pybyr ar yr adain dde, y math o foi allai fod wedi mynd i gael addysg.
“Mae’n ystrydeb ond petai e wedi cael coleg, falle byddai hynny wedi’i ddifetha fe.
“Roedd e’n ddarllenwr mawr, yn enwedig am hanes Cymru, ond hanes na fyddai llawer iawn o bobol yn gyfarwydd ag e.
“Roedd e’n galw draw gyda fi yn ei dractor yn aml, a’i adael e tu fas.
“Ro’n i’n aml yn meddwl ei fod e’n byw yn yr oes anghywir. Bydd hi’n wag iawn yma hebddo fe.”