Mae’r BBC wedi amddiffyn themâu tywyll y bennod ddiweddaraf o’r rhaglen Dr Who ar ôl i wylwyr gwyno am natur y straeon.

Yn y bennod nos Sadwrn diwethaf – y cyntaf o ddwy ran ar ddiwedd y gyfres – roedd stori’r Doctor a’i bartner Clara Oswald yn cynnwys delio ag arallfyd y meirw, a dychweliad y Cybermen.

Roedd y rhaglen hefyd i’w weld yn dangos cariad Clara, Danny, yn cael ei ladd mewn damwain car, gyda sôn yn y bennod am gyrff marw’n medru teimlo poen pan maen nhw’n cael eu hamlosgi.

Fe arweiniodd hynny at gwynion i’r BBC am natur dywyll rhai o themâu’r gyfres, sydd yn cael eu ffilmio mewn stiwdios ym Mae Caerdydd.

Ond mae’r gorfforaeth wedi mynnu fod y themâu a drafodwyd yn rhai “priodol”, gan ddweud fod yr awgrymiadau tywyll yn cael eu wfftio yn y bennod.

“Mae Doctor Who yn ddrama deuluol gyda thraddodiad hir o daclo rhai o’r cwestiynau sylfaenol ar fywyd a marwolaeth,” meddai datganiad gan y BBC.

“Roedden ni’n ofalus gyda’r themâu yn Black Water ac yn hyderus eu bod yn briodol yng nghyd-destun byd sci-fi y rhaglen.

“Cyn y darn ble mae cymeriad 3W yn datgelu’i theori anghonfensiynol am arallfyd y meirw, mae’r cymeriad hwnnw’n rhybuddio’r Doctor a Clara eu bod ar fin clywed rhywbeth allai beri gofid.

“Pan mae’r Doctor yn clywed yr honiadau hyn mae’n eu dilorni’n syth, gan eu cyhuddo fel rhan o dric. Daw i’r amlwg ei fod e’n gywir, a bod y cysyniad cyfan yn dwyll y mae Missy wedi’i ddyfeisio.”

Mae ail bennod y stori’n cael ei darlledu dydd Sadwrn.