Gruff Rhys
Mae Gruff Rhys wedi cael rhagor o gydnabyddiaeth ryngwladol am ei brosiect American Interior ar ôl i’r ffilm ddogfen gipio gwobr mewn gŵyl ym Marcelona.

Daeth y ffilm ddogfen am daith y cerddor yn America i’r brig yng Ngwobrau’r Beefeater In-edit Festival 2014 yng nghategori’r ddogfen gerddorol ryngwladol orau.

Cafodd y ffilm, a gomisiynwyd gan S4C a Ffilm Cymru Wales a’i chyfarwyddo gan Dylan Goch a chwmni ie ie, ei greu fel rhan o brosiect cerddorol diweddar y cyn-Super Furry.

Fe ddangoswyd y ffilm I Grombil Cyfandir Pell – American Interior, sydd yn dilyn taith Gruff Rhys i olrhain hanes un o’i gyndeidiau drwy America, ei dangos ar S4C ym mis Medi.

Mae’r prosiect American Interior, oedd hefyd yn cynnwys albwm, llyfr ac ap, yn dilyn ôl troed perthynas bell Gruff Rhys o’r 18fed Ganrif, yr anturiaethwr John Evans.

Cymru ‘ar y map’

Cafodd y ffilm American Interior ei chanmol “am ei dewrder wrth groesi fformatau, gan gymysgu perfformiadau byw gyda strwythur sinematograffig” gan lefarydd ar ran yr Ŵyl.

Ac yn ôl comisiynydd y ddogfen ar ran S4C, Llion Iwan, roedd y ffilm wedi rhoi Cymru ar y map.

“Mae gan Gruff Rhys ddawn arbennig i adrodd stori, ac mae’n llwyddo i gyfuno’r ddawn honno gyda’i ddawn gerddorol yn y ffilm hon er mwyn adrodd hen hen stori, a’i gwneud yn berthnasol i gynulleidfaoedd ar draws y byd heddiw,” meddai Llion Iwan.

“Wrth gyfuno hynny gyda gweledigaeth Dylan Goch, y cyfarwyddwr, cawn ffilm ryfeddol. Llongyfarchiadau mawr i Gruff a phawb arall fu’n gweithio ar y ffilm ar ennill y wobr hon, ac am roi Cymru ar y map unwaith yn rhagor.”