Alvin Stardust
Bydd angladd y canwr poblogaidd o’r 1970au, Alvin Stardust yn cael ei gynnal yn Abertawe heddiw.

Bu farw Stardust o ganser fis diwethaf yn 72 oed.

Roedd yn briod â’r actores a’r coreograffwraig Julie Paton, sy’n enedigol o’r ddinas, ac roedd ganddyn nhw dŷ yn ardal St Thomas, lle’r oedden nhw’n byw pan nad oedd e’n teithio.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn yr eglwys lle priododd y pâr.

Yn dilyn y gwasanaeth eglwysig, fe fydd yr arch yn cael ei chludo i Amlosgfa Abertawe, wedi’i harwain gan griw o feicwyr Harley Davidson.

Bydd Cantorion Gwalia, un o’i hoff gorau, yn canu Calon Lân.