Mae’r digrifwr adnabyddus Rhod Gilbert wedi datgelu mai ef oedd yn gyfrifol am y rhodd anhysbys o £3,000 a gafodd ei roi i ymgyrch i geisio ailagor tafarn Y Parrot yng Nghaerfyrddin.

Yr wythnos diwethaf cafodd rhodd anhysbys o £3,000 ei wneud i’r ymgyrch, gan godi’r cyfanswm oedd wedi’i gasglu i £5,000 – hanner y targed sydd wedi’i osod ar gyfer ailagor y bar gerddoriaeth.

Bellach mae’r swm a gasglwyd wedi codi i £6,000, a hanner o hynny diolch i rodd y digrifwr.

“Rwy’n dymuno pob lwc i chi a galla’i ddim pwysleisio pa mor bwysig yw llefydd fel hyn,” meddai Rhod Gilbert wrth yr ymgyrch.

“Rwy’n gwybod nad oes angen i mi ddweud hynny wrthych chi gan ei bod hi’n amlwg eich bod chi’n teimlo felly hefyd.

“Petai gan Gaerfyrddin lefydd fel hyn pan oeddwn i’n tyfu lan fe fyddwn i wedi gwneud rhywbeth creadigol blynyddoedd yn ôl, felly pŵer i chi a’r dref.”

Fe groesawodd Cymuned Gerddorol Gorllewin Cymru, sydd yn rhedeg yr ymgyrch godi arian, rodd y digrifwr gan ddweud eu bod yn hyderus bellach y gallai’r lleoliad ailagor.

Fe gaeodd Y Parrot ym mis Awst am nad oedd y perchnogion yn medru ei gynnal fel busnes mwyach.

Cyn hynny roedd y bar cerddorol wedi croesawu artistiaid fel Meic Stevens, Cate Le Bon, Gulp, Robin Williamson, Y Ffug a Dave Datblygu, a hefyd yn llwyfan gwerthfawr i gerddorion newydd.

Bwriad yr ymgyrch yw ailagor, gwella a datblygu’r bar ar Stryd y Brenin, gan gynnwys gwella’r system oeri aer, prynu system sain newydd a symud y bar fel bod llwyfan gwell i gerddorion.