Yr Argus - ar ei ffordd (Llun y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae llong gymorth o wledydd Prydain ar fin cyrraedd Sierra Leone i helpu yn yr ymdrech yn erbyn y clefyd ebola.
Mae’n cario moddion, nwyddau a mwy na 30 o gerbydau a fydd yn cael eu defnyddio i gario gweithwyr iechyd a chymorth o le i le.
Roedd yr Argus wedi hwylio i orllewin Affrica o Gibraltar, yn rhan o ymdrech a fydd yn cynnwys tuag 800 o fliwyr o wledydd Prydain.
Mae ganddi hefyd 100 o welyau meddygol ar ei bwrdd.
Nyrs yn herio cwarantîn
Yn y cyfamser, mae posibilrwydd o wrthdaro rhwng heddlu a nyrs sydd mewn cwarantîn rhag ebola yn yr Unol Daleithiau.
Mae Kaci Hickox, a fu’n gweithio’n wirfoddol i atal y clefyd yn Sierra Leone, yn dweud ei bod yn bwriadu gadael ei thŷ lle mae’n cael ei gwylio am gyfnod o 21 niwrnod.
Roedd plismyn yn gwylio wrth iddi hi a’i chariad cynnal cynhadledd i’r wasg anffurfiol y tu allan i’r bynglo yn nhalaith Maine.
Y ddadl
Yno, mae’r awdurdodau’n gofyn am hawl i ddefnyddio milwyr taleithiol i gadw’r nyrs yn ei chartref.
Mae hi’n dweud ei bod yn cael ei gorfodi aros yn ei chartref er ei body n “berffaith iach” ac er nad yw’n “fygythiad o unrhyw fath” i’r cyhoedd yn yr Unol Daleithiau.