Mae yfed gormod o alcohol yn ‘norm’ yn y lluoedd arfog, yn ôl pwyllgor o aelodau seneddol.

Mae hynny, medden nhw, yn arwain at broblemau iechyd meddwl, trais a cham-drin domestig.

Yn ôl y Pwyllgor Dethol ar Amddiffyn, fe ddylai’r Weinyddiaeth Amddiffyn wneud mwy i newid y diwylliant ac i edrych ar bris alcohol ymhlith y lluoedd arfog, a pha mor hawdd yw cael gafael arno.

Angen gweithredu tros gam-drin domestig

Maen nhw’n tynnu sylw arbennig at gam-drin domestig gan ddweud bod angen gweithredu brys ynglŷn â hynny hefyd.

“Rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn fwy gweithredol ar bob lefel,” meddai’r adroddiad newydd.

“Fe ddylen nhw edrych eto ar eu polisïau ar drais domestig a datblygu cynlluniau i ymyrryd ac atal trais domestig neu, o leia’, i leihau achosion o drais domestig ymhlith aelodau’r lluoedd arfog.”

Trawma

Problem arall sy’n cael sylw yw anhwylder straen wedi trawma – mae’r adroddiad yn dweud bod lefelau ddwywaith yn uwch ymhlith pobol sydd wedi bod mewn rhyfel ac yn uwch fyth ymhlith milwyr wrth gefn sy’n cael eu hanfon i ymladd.